Ymateb y Llywodraeth: Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 22) 2021

 

Pwynt Craffu ar Rinweddau 3:Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae’r asesiad effaith cryno a gyhoeddwyd ar gyfer y pàs COVID wedi ei ddiweddaru yng ngoleuni’r newidiadau i’r ddarpariaeth ynghylch imiwnedd naturiol. Caiff y fersiwn wedi ei diweddaru ei chyhoeddi cyn hir.

 

Pwynt Craffu ar Rinweddau 4:Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn cytuno bod natur anrhagweladwy imiwnedd naturiol yn golygu ei fod yn anaddas i’w ddefnyddio fel mesur ardystio o’i gymharu â brechu a phrofi. Mae cryfder yr ymateb imiwnedd amddiffynnol i COVID-19 yn amrywio’n fawr o un person i’r llall, ac er ei bod yn debygol iawn y caiff unigolyn ei ddiogelu rhag clefyd difrifol neu farwolaeth am gyfnod ar ôl gwella o’r haint cyntaf, bydd cyfnod para’r diogelwch hwn yn amrywio ac nid yw gallu’r unigolion hyn i barhau i drosglwyddo’r feirws wedi cael ei feintioli eto.

Nododd cofnodion cyfarfod 99 y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau (SAGE 99) y canlynol:

-       There remain many uncertainties about the biological parameters of Omicron including the combination of transmissibility and immune escape which give it a growth advantage over Delta in the UK. Evidence continues to suggest a significant degree of immune escape, and much higher levels of reinfections are being seen with Omicron (8% to 9%) than Delta (around 1%).

Atodir dolen i’r papur https://www.gov.uk/government/publications/sage-99-minutes-coronavirus-covid-19-response-16-december-2021/sage-99-minutes-coronavirus-covid-19-response-16-december-2021.

Bydd y darpariaethau ynghylch y pàs COVID sy’n ymwneud ag imiwnedd naturiol a thystiolaeth o frechu (gan gynnwys y diffiniad ffurfiol o wedi ei frechu’n llawn) yn parhau i gael eu hadolygu wrth i gyfraddau achosion newid ac wrth i’r rhaglen frechu barhau i gael ei gweithredu.